42(1)Mae Atodlen 19 (darpariaeth ofynnol ar gyfer addysg grefyddol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ym mhennawd yr Atodlen, ar ôl “RELIGIOUS EDUCATION” mewnosoder “: ENGLAND”.
(3)Ym mharagraff 1 (rhagarweiniol), yn is-baragraff (1), hepgorer “or 101(1)(a)”.
(4)Ym mharagraff 2 (ysgolion cymunedol ac ysgolion sefydledig a gwirfoddol heb gymeriad crefyddol), yn is-baragraff (1)—
(a)ym mharagraff (a), ar ôl “community school” mewnosoder “in England”;
(b)ym mharagraff (b), ar ôl “voluntary school” mewnosoder “in England”.
(5)Ym mharagraff 3 (ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a reolir sydd â chymeriad crefyddol), yn is-baragraff (1), ar ôl “voluntary controlled school” mewnosoder “in England”.
(6)Ym mharagraff 4 (ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol), yn is-baragraff (1), ar ôl “voluntary aided school” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)