Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

25Pŵer i osod gofynion pellach cwricwlwmLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau bennu gofynion pellach y mae rhaid i gwricwlwm ar gyfer ysgol a gynhelir gydymffurfio â hwy iʼr graddau y maeʼn gymwys i ddisgyblion o fewn is-adran (2).

(2)Y disgyblion ywʼr rheini sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi, ond sy’n dal i fod o’r oedran ysgol gorfodol.

(3)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, bennu darpariaeth—

(a)y mae rhaid ei gwneud mewn cwricwlwm;

(b)na chaniateir ei gwneud mewn cwricwlwm.

(4)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth drwy gyfeirio at gyrsiau astudio (er enghraifft, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer isafswm nifer o gyrsiau astudio, neu ar gyfer cyrsiau astudio a bennir yn y rheoliadau).

(5)Yn yr adran hon, ystyr “cwrs astudio” yw cwrs addysg neu hyfforddiant—

(a)sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwyir o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5) neu a ddynodir o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu

(b)a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 25 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

I3A. 25 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)