RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 3GWEITHREDU CWRICWLWM
Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir
28Gofynion gweithredu cyffredinol
Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—
a
syʼn galluogi pob disgybl i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
b
syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl,
c
syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl,
d
syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl (os oes rhai), ac
e
syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl.