C1RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

Annotations:

PENNOD 3GWEITHREDU CWRICWLWM

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir

I1I229Gofynion gweithredu pellach ar gyfer disgyblion 3 i 14 oed

1

Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig yn unol ag is-adran (2) i ddisgyblion nad ydynt eto wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y maeʼr rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi.

2

Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl—

a

syʼn cwmpasuʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny), a

b

syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

3

Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)—

a

mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr disgybl, a

b

mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gyd-fynd â Rhan 2 o Atodlen 1, ac eithrio pan fo is-adran (4) yn gymwys.

4

Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r addysgu a dysgu i ddisgyblion mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol.