Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 2 modified (dd.) (13.6.2022) by Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) 2022 (O.S. 2022/652), ergl. 2
(1)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig yn unol ag is-adran (2) i ddisgyblion nad ydynt eto wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y maeʼr rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi.
(2)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl—
(a)syʼn cwmpasuʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny), a
(b)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
(3)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)—
(a)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr disgybl, a
(b)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gyd-fynd â Rhan 2 o Atodlen 1, ac eithrio pan fo is-adran (4) yn gymwys.
(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r addysgu a dysgu i ddisgyblion mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 29 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.
I3A. 29 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)