Rhagolygol
32Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgybl: atodolLL+C
(1)Rhaid i bennaeth syʼn gwneud penderfyniad o dan adran 31 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2)—
(a)i’r disgybl y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef, a
(b)i riant y disgybl.
(2)Yr wybodaeth yw—
(a)y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud,
(b)effaith y penderfyniad,
(c)rhesymauʼr pennaeth dros wneud y penderfyniad,
(d)gwybodaeth am yr addysgu a dysgu a sicrheir iʼr disgybl yn lleʼr addysgu a dysgu y maeʼr penderfyniad wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef, ac
(e)gwybodaeth am yr hawl i ofyn am adolygiad, neu wneud apêl, o dan adran 33.
(3)Rhaid rhoiʼr wybodaeth yn ysgrifenedig.
(4)Nid ywʼr ddyletswydd yn is-adran (1)(a) yn gymwys os ywʼr pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall—
(a)yr wybodaeth a roddid, neu
(b)yr hyn y maeʼn ei olygu i arfer yr hawliau a roddir gan adran 33.
(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 31.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)