RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 4GWEITHREDU CWRICWLWM: EITHRIADAU

43Eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion a phlant unigol: atodol

(1)

Maeʼr adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch rheoliadau a wneir o dan adran 42.

(2)

Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu i benderfyniad gael ei wneud o dan y rheoliadau ar y sail bod gan ddisgybl neu blentyn anghenion dysgu ychwanegol neu y gall fod ganddo anghenion dysgu ychwanegol (gweler, yn hytrach, adran 41).

(3)

Rhaid iʼr rheoliadau bennu bod cyfnod gweithredol penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau naill ai—

(a)

yn gyfnod penodol a bennir yn y penderfyniad nad ywʼn hwy na 6 mis, neu

(b)

yn gyfnod y mae rhaid dod ag ef i ben (yn unol âʼr rheoliadau) heb fod yn hwyrach na 6 mis i’w ddechrau.

(4)

Ond caiff y rheoliadau bennu cyfnod gweithredol gwahanol ar gyfer penderfyniad os yw’r cyfnod gweithredol hwnnw i ddechrau—

(a)

yn union ar ôl diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol, neu

(b)

cyn diwedd cyfnod, a bennir yn y rheoliadau, sy’n dechrau â diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol.

(5)

Caiff y rheoliadau alluogi person syʼn gwneud penderfyniad o dan y rheoliadau—

(a)

i amrywioʼr penderfyniad, ac eithrio mewn perthynas âʼi gyfnod gweithredol, neu

(b)

i ddirymuʼr penderfyniad.

(6)

Caiff y rheoliadau bennu—

(a)

ym mha achosion neu o dan ba amgylchiadau y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau;

(b)

amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau.

(7)

Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod gweithredol” penderfyniad ywʼr cyfnod y maeʼr penderfyniad yn cael effaith ar ei gyfer.