Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

43Eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion a phlant unigol: atodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Maeʼr adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch rheoliadau a wneir o dan adran 42.

(2)Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu i benderfyniad gael ei wneud o dan y rheoliadau ar y sail bod gan ddisgybl neu blentyn anghenion dysgu ychwanegol neu y gall fod ganddo anghenion dysgu ychwanegol (gweler, yn hytrach, adran 41).

(3)Rhaid iʼr rheoliadau bennu bod cyfnod gweithredol penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau naill ai—

(a)yn gyfnod penodol a bennir yn y penderfyniad nad ywʼn hwy na 6 mis, neu

(b)yn gyfnod y mae rhaid dod ag ef i ben (yn unol âʼr rheoliadau) heb fod yn hwyrach na 6 mis i’w ddechrau.

(4)Ond caiff y rheoliadau bennu cyfnod gweithredol gwahanol ar gyfer penderfyniad os yw’r cyfnod gweithredol hwnnw i ddechrau—

(a)yn union ar ôl diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol, neu

(b)cyn diwedd cyfnod, a bennir yn y rheoliadau, sy’n dechrau â diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol.

(5)Caiff y rheoliadau alluogi person syʼn gwneud penderfyniad o dan y rheoliadau—

(a)i amrywioʼr penderfyniad, ac eithrio mewn perthynas âʼi gyfnod gweithredol, neu

(b)i ddirymuʼr penderfyniad.

(6)Caiff y rheoliadau bennu—

(a)ym mha achosion neu o dan ba amgylchiadau y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau;

(b)amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod gweithredol” penderfyniad ywʼr cyfnod y maeʼr penderfyniad yn cael effaith ar ei gyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 43 mewn grym ar 14.6.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 3(a)

I3A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(b)