xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 4LL+CGWEITHREDU CWRICWLWM: EITHRIADAU

45Apelau am eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion unigolLL+C

(1)Maeʼr adran hon yn gymwys—

(a)pan fo pennaeth ysgol yn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad syʼn ymwneud â disgybl o dan reoliadau a wneir o dan adran 42, neu

(b)pan fo disgybl, neu riant disgybl, yn gofyn i bennaeth ysgol wneud penderfyniad o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas âʼr disgybl, ond pan na fo penderfyniad wedi ei wneud.

(2)Caiff pob un oʼr canlynol apelio i gorff llywodraethuʼr ysgol—

(a)y disgybl;

(b)rhiant y disgybl.

(3)Nid yw is-adran (2)(a) yn gymwys os yw’r corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan yr adran hon.

(4)Os gwneir apêl o dan yr adran hon, caiff y corff llywodraethu—

(a)cyfarwyddoʼr pennaeth, yn ysgrifenedig, i gymryd y camau gweithredu y maeʼn ystyried eu bod yn briodol mewn cysylltiad â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu’r cais y cyfeirir ato yn is-adran (1)(b), neu

(b)hysbysu’r pennaeth, yn ysgrifenedig, na roddir unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.

(5)Rhaid iʼr corff llywodraethu roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—

(a)iʼr disgybl, a

(b)i riant y disgybl.

(6)Nid yw is-adran (5)(a) yn gymwys os ywʼr corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(7)Rhaid iʼr pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4).

(8)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag apelau o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 45 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I3A. 45 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)