53Gofynion cwricwlwmLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau cwricwlwm iʼr plentyn syʼn cydymffurfio âʼr gofynion yn is-adrannau (2) i (5).
(2)Y gofyniad cyntaf yw bod rhaid iʼr cwricwlwm—
(a)galluogiʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b)darparu ar gyfer cynnydd priodol iʼr plentyn,
(c)bod yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn, a
(d)bod yn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol i’r plentyn.
(3)Yr ail ofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, iʼr graddau y maeʼn briodol iʼr plentyn, ar gyfer addysgu a dysgu—
(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,
(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac
(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
(4)Y trydydd gofyniad yw bod rhaid iʼr ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(b) fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr plentyn.
(5)Y pedwerydd gofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, os ywʼn rhesymol bosibl a phriodol gwneud hynny, ar gyfer addysgu a dysgu—
(a)yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a
(b)yn yr elfennau mandadol eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.
I3A. 53 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)
I4A. 53 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)