RHAN 5CWRICWLWM: ADDYSG ÔL-ORFODOL MEWN YSGOLION A GYNHELIR

61Gofyniad cwricwlwm: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

1

Rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir sicrhau y darperir addysgu a dysgu mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sy’n gofyn amdano.

2

Mae’r pennaeth i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio ag is-adran (1) os darperir yr addysgu a dysgu yn yr ysgol ar adeg neu adegau sy’n gyfleus i’r rhan fwyaf o’r disgyblion sydd wedi gofyn amdano.

3

Rhaid i’r addysgu a dysgu a ddarperir o dan yr adran hon—

a

adlewyrchu’r ffaith mai Cristnogol yn bennaf yw’r traddodiadau crefyddol yng Nghymru, gan ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru, a

b

adlewyrchu hefyd y ffaith y delir ystod o argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol yng Nghymru.

4

Yn is-adran (3), mae’r cyfeiriad at “argyhoeddiadau athronyddol” yn gyfeiriadau at argyhoeddiadau athronyddol o fewn ystyr “philosophical convictions” yn Erthygl 2 o Brotocol Cyntaf y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

5

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y darperir addysgu a dysgu mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn unol â’r adran hon.

6

Yn yr adran hon—

  • ystyr “y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol” (“the European Convention on Human Rights”) yw’r Confensiwn ar Amddiffyn Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol, a gytunwyd gan Gyngor Ewrop yn Rhufain ar 4 Tachwedd 1950, fel y mae’n cael effaith am y tro o ran y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “y Protocol Cyntaf” (“the First Protocol”), mewn perthynas â’r Confensiwn hwnnw, yw protocol y Confensiwn a gytunwyd ym Mharis ar 20 Mawrth 1952.