RHAN 7CYFFREDINOL
I182Dehongli cyffredinol
1
Yn y Ddeddf hon—
mae “addasu” (“modify”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio, diddymu neu ddirymu;
ystyr “dosbarth” (“class”), mewn perthynas â disgybl, yw—
- a
y grŵp addysgu yr addysgir y disgybl ynddo yn rheolaidd, neu
- b
pan fo dau neu ragor o grwpiau o’r fath, y grŵp a ddynodir gan bennaeth yr ysgol;
- a
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
2
Mae i ymadroddion eraill yn y Ddeddf hon y diffinnir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol iddynt yn Neddf Addysg 1996 (p. 56), neu y rhoddir ystyr iddynt ganddi, yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Ddeddf honno.
3
Ond pan fo ystyr wedi ei roi i ymadrodd at ddibenion y Ddeddf hon (naill ai gan y Ddeddf hon neu gan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4)) sy’n wahanol i’r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, mae’r ystyr honno yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r un a roddir at ddibenion Deddf 1996.