Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Monitro a gorfodi amodau cofrestruLL+C

36Dyletswydd y Comisiwn i fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhausLL+C

Rhaid i’r Comisiwn fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus gan ddarparwyr cofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 36 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(w)

Rhagolygol

37Cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad â chydymffurfedd ag amodau cofrestru parhausLL+C

Caiff y Comisiwn ddarparu, neu wneud trefniadau ar gyfer darparu, cyngor neu gynhorthwy arall i ddarparwr cofrestredig at ddiben sicrhau cydymffurfedd gan y darparwr â’i amodau cofrestru parhaus.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

Rhagolygol

38Adolygiadau sy’n berthnasol i gydymffurfedd ag amodau cofrestru parhausLL+C

Caiff y Comisiwn gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae’n ystyried eu bod yn berthnasol i gydymffurfedd gan ddarparwr cofrestredig â’i amodau cofrestru parhaus.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

Rhagolygol

39Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhausLL+C

(1)Caiff y Comisiwn roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio ag amod cofrestru parhaus.

(2)Yn achos methiant, neu fethiant tebygol, i gydymffurfio ag amod cofrestru parhaus, caiff y Comisiwn gyfarwyddo’r corff llywodraethu i gydymffurfio â’r amod.

(3)Yn achos methiant i gydymffurfio ag amod terfyn ffioedd, caiff y Comisiwn hefyd, fel dewis arall i gyfarwyddyd a ddisgrifir yn is-adran (2), neu’n ychwanegol ato, gyfarwyddo’r corff llywodraethu i ad-dalu ffioedd uwchlaw’r terfyn a dalwyd i’r darparwr addysg drydyddol.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at ddiben cydymffurfio â’r amod.

(5)Caiff cyfarwyddyd o’r math a ddisgrifir yn is-adran (3) bennu’r modd y mae ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn i fod i gael ei roi ar waith, neu y caniateir iddo gael ei roi ar waith.

(6)Os yw’r Comisiwn yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddo—

(a)rhoi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru;

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(7)Mae “ffioedd uwchlaw’r terfyn” yn ffioedd cwrs rheoleiddiedig i’r graddau y mae’r ffioedd hynny yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys (fel y’i meintiolir at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 32 y mae’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â hi).

(8)Am ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 75 i 78.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

Rhagolygol

40Darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau o dan adran 39LL+C

(1)Caiff y Comisiwn ddyroddi canllawiau ynghylch y camau sydd i’w cymryd at ddiben cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 39.

(2)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â chorff llywodraethu pob darparwr cofrestredig; a chaiff ymgynghori â chorff llywodraethu unrhyw ddarparwr addysg drydyddol arall yng Nghymru y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)