RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD
Swyddogaethau sicrhau ansawdd cyffredinol
50Fframweithiau sicrhau ansawdd
1
Caiff y Comisiwn gyhoeddi fframweithiau sicrhau ansawdd.
2
Mae fframwaith sicrhau ansawdd yn ddogfen sy’n nodi canllawiau a gwybodaeth am faterion polisi ac arfer ynghylch—
a
meini prawf ar gyfer asesu ansawdd addysg drydyddol;
b
prosesau ar gyfer asesu ansawdd addysg drydyddol;
c
rolau a chyfrifoldebau—
i
personau sy’n asesu ansawdd addysg drydyddol,
ii
darparwyr addysg drydyddol o ran ansawdd addysg drydyddol, a
iii
unrhyw bersonau eraill y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol o ran ansawdd addysg drydyddol;
d
ystyried barn dysgwyr ynghylch ansawdd yr addysg drydyddol a gânt;
e
datblygiad proffesiynol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol;
f
unrhyw fater arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn berthnasol i sicrhau ansawdd addysg drydyddol.
3
Caiff y Comisiwn ddiwygio, disodli neu dynnu’n ôl unrhyw fframwaith sicrhau ansawdd a gyhoeddir o dan yr adran hon.
4
Cyn cyhoeddi fframwaith (neu unrhyw fframwaith diwygiedig) neu dynnu fframwaith yn ôl o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori—
a
â phob darparwr cofrestredig,
b
â Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“y Prif Arolygydd”), ac
c
ag unrhyw bersonau eraill y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol.
5
Rhaid i’r personau a grybwyllir yn is-adran (6), i’r graddau y mae’n berthnasol i arfer eu swyddogaethau, roi sylw i fframwaith sicrhau ansawdd a gyhoeddir o dan yr adran hon.
6
Y personau yw—
a
y Comisiwn;
b
y Prif Arolygydd;
c
corff dynodedig (gweler adran 56).
7
Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar bwerau eraill y Comisiwn i ddyroddi canllawiau.
8
Mae i “aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol” yr un ystyr ag yn adran 5.
51Dyletswydd i fonitro ansawdd addysg drydyddol reoleiddiedig ac i hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg honno
Rhaid i’r Comisiwn fonitro ansawdd addysg drydyddol a hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg honno—
a
a ddarperir gan, neu ar ran, darparwyr cofrestredig (i’r graddau y mae’r addysg drydyddol yn ymwneud â chategorïau cofrestru’r darparwyr);
b
a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.
52Cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad ag ansawdd addysg drydyddol
1
Mae’r adran hon yn gymwys i addysg drydyddol, neu i gwrs penodol o addysg drydyddol—
a
a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr cofrestredig,
b
a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo, neu
c
a ddarperir yng Nghymru ac nad yw’n dod o fewn paragraff (a) na (b).
2
Caiff y Comisiwn ddarparu, neu wneud trefniadau ar gyfer darparu, cyngor neu gynhorthwy arall i unrhyw berson at ddiben—
a
gwella ansawdd yr addysg drydyddol neu’r cwrs, neu
b
atal ansawdd yr addysg drydyddol neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.
3
At ddibenion yr adran hon, mae ansawdd addysg drydyddol, neu ansawdd cwrs addysg drydyddol, yn annigonol os nad yw’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y rheini sy’n cael yr addysg neu sy’n ymgymryd â’r cwrs.
53Adolygiadau sy’n berthnasol i ansawdd addysg drydyddol
Caiff y Comisiwn gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae’n ystyried eu bod yn berthnasol i ansawdd addysg drydyddol, neu i gwrs penodol o addysg drydyddol—
a
a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr cofrestredig,
b
a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo, neu
c
a ddarparir yng Nghymru ac nad yw’n dod o fewn paragraff (a) na (b).