PENNOD 4CYFFREDINOL
83Dynodi darparwyr addysg drydyddol eraill
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg drydyddol o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.
(2)Mae darparwr addysg drydyddol o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—
(a)sy’n darparu addysg drydyddol yng Nghymru, ond
(b)na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.
(3)Mae darparwr addysg drydyddol a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu odani, fel pe bai’n sefydliad.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)gwneud ceisiadau am ddynodiad;
(b)gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);
(c)tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);
(d)effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel pe bai’n sefydliad at ddibenion rhagnodedig er gwaethaf is-adran (3)).
84Dehongli Rhan 2
Yn y Rhan hon—
mae i “adolygydd penderfyniadau” (“decision reviewer”) yr ystyr a roddir gan adran 79(5);
mae i “amod cofrestru parhaus” (“ongoing registration condition”) yr ystyr a roddir gan adran 25(10);
mae i “amod terfyn ffioedd” (“fee limit condition”) yr ystyr a roddir gan adran 32(3);
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw cyfnod o 12 mis;
mae i “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”), mewn perthynas â darparwr addysg drydyddol y mae datganiad terfyn ffioedd yn ymwneud ag ef, yr ystyr a roddir yn adran 46(5);
mae i “corff llywodraethu” (“governing body”), mewn perthynas â darparwr allanol nad yw’n sefydliad, yr ystyr a roddir gan adran 54(7) (gweler adran 144 am ystyr “corff llywodraethu” yn gyffredinol);
ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs a bennir mewn rheoliadau o dan adran 32(4);
mae i “darparwr allanol” (“external provider”) yr ystyr a roddir gan adran 54(7);
mae i “datganiad terfyn ffioedd” (“fee limit statement”) yr ystyr a roddir gan adran 46(1);
ystyr “ffioedd” (“fees”) yw ffioedd mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs, neu mewn cysylltiad ag ymgymryd ag ef fel arall, gan gynnwys ffioedd derbyn, cofrestru, dysgu a graddio, a ffioedd sy’n daladwy i ddarparwr addysg drydyddol am ddyfarnu neu achredu unrhyw ran o’r cwrs, ond sy’n eithrio—
(a)ffioedd sy’n daladwy am fwyd neu lety;
(b)ffioedd sy’n daladwy am deithiau maes (gan gynnwys unrhyw elfen ddysgu o’r ffioedd hynny);
(c)ffioedd sy’n daladwy am fod yn bresennol mewn unrhyw seremoni raddio neu seremoni arall;
(d)unrhyw ffioedd eraill a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y diffiniad hwn;
mae i “ffioedd cwrs rheoleiddiedig“ (“regulated course fees”) yr ystyr a roddir gan adran 32(7);
mae i “ffioedd uwchlaw’r terfyn” (“excess fees”) yr ystyr a roddir gan adran 39(7);
mae i “person cymhwysol” (“qualifying person”) yr ystyr a roddir gan adran 32(9);
ystyr “Prif Arolygydd” (“Chief Inspector”) yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
mae i “terfyn ffioedd” (“fee limit”) yr ystyr a roddir gan adran 46(5);
mae i “terfyn ffioedd cymwys” (“applicable fee limit”) yr ystyr a roddir gan adran 32(8).