Ymchwil ac arloesi
105Cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ac arloesi
(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i gorff llywodraethu darparwr penodedig mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y corff llywodraethu neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddibenion ymchwil neu arloesi, neu mewn cysylltiad ag ymchwil neu arloesi.
(2)Caiff y Comisiwn hefyd ddarparu adnoddau ariannol i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y person at ddiben darparu gwasanaethau gan unrhyw berson at ddibenion gwneud gwaith ymchwil neu arloesi gan ddarparwr penodedig, neu mewn cysylltiad â gwneud gwaith ymchwil neu arloesi ganddo.
(3)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon i ddarparu adnoddau ariannol i ddarparwr penodedig, rhaid i’r Comisiwn roi sylw—
(a)i ddymunoldeb peidio ag anghefnogi’r darparwr hwnnw rhag cynnal neu ddatblygu cyllid o ffynonellau eraill, a
(b)(i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill) i ddymunoldeb cynnal unrhyw nodweddion arbennig i’r darparwr.
(4)Yn yr adran hon—
ystyr “corff sy’n cydlafurio” (“collaborating body”), mewn perthynas â darparwr penodedig, yw person—
(a)
y mae corff llywodraethu’r darparwr penodedig yn bwriadu talu iddo yr holl adnoddau ariannol neu rai ohonynt a roddir i’r corff llywodraethu o dan is-adran (1), a
(b)
sy’n gwneud, sy’n bwriadu gwneud neu sydd wedi gwneud gwaith ymchwil neu arloesi ar ran y darparwr penodedig, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio, â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer;
ystyr “darparwr penodedig” (“specified provider”) yw darparwr cofrestredig sydd wedi ei gofrestru mewn categori a bennir at ddibenion yr adran hon mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(5)Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i gorff llywodraethu’r darparwr penodedig wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).
106Cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ac arloesi: telerau ac amodau
(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol o dan adran 105 ar y telerau a’r amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—
(a)galluogi’r Comisiwn i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;
(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.
(3)Ni chaiff y telerau a’r amodau ymwneud â chymhwyso unrhyw symiau sy’n deillio ac eithrio o’r Comisiwn.
(4)Wrth—
(a)penderfynu darparu adnoddau ariannol o dan adran 105, a
(b)penderfynu unrhyw delerau ac amodau ar gyfer adnoddau ariannol a ddarperir o dan yr adran honno,
rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r egwyddor ei bod yn well gwneud penderfyniadau ar gynigion ymchwil neu arloesi unigol yn dilyn gwerthusiad o ansawdd y cynigion a’u heffaith tebygol (megis proses adolygu gan gymheiriaid).
107Swyddogaethau eraill y Comisiwn mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi
(1)Rhaid i’r Comisiwn—
(a)hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yng Nghymru o’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido;
(b)lledaenu yng Nghymru ganlyniadau’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido;
(c)hwyluso cymhwyso’n ymarferol yng Nghymru ganlyniadau’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido.
(2)Rhaid i’r Comisiwn fonitro sut y mae adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 105 yn cael eu defnyddio.
(3)Rhaid i’r Comisiwn gynnwys yn ei adroddiad blynyddol (a lunnir o dan baragraff 16 o Atodlen 1) y casgliadau y mae’n dod iddynt o’r monitro hwnnw o ran y graddau y mae’r gweithgareddau y mae’n eu cyllido, ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi—
(a)yn cyflawni canlyniadau llwyddiannus,
(b)yn cael eu cyflwyno’n effeithiol, ac
(c)yn cynrychioli gwerth am arian.