RHAN 4PRENTISIAETHAU
Rhagarweiniol
I1111Ystyr “prentisiaeth Gymreig gymeradwy”
1
Mae prentisiaeth Gymreig gymeradwy yn drefniant sy’n dod o fewn is-adrannau (2), (3) a (4).
2
Mae’r trefniant—
a
yn digwydd o dan gytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy, neu
b
yn brentisiaeth Gymreig amgen.
3
Mae’r gwaith a wneir yn rhinwedd y trefniant yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
4
Mae’r trefniant yn bodloni unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
5
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
I2112Ystyr “cytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy”
1
Mae cytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy yn gytundeb—
a
sy’n darparu i berson (“y prentis”) weithio i berson arall am gydnabyddiaeth mewn galwedigaeth y mae fframwaith prentisiaeth a gyhoeddir o dan adran 117 mewn grym ar ei chyfer ar yr adeg y gwneir y cytundeb,
b
sy’n darparu i’r prentis gael hyfforddiant er mwyn cynorthwyo’r prentis i fodloni’r gofynion a bennir yn y fframwaith prentisiaeth, ac
c
sy’n bodloni unrhyw amodau eraill a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
2
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
I3113Ystyr “prentisiaeth Gymreig amgen”
1
Mae prentisiaeth Gymreig amgen yn drefniant, y mae person yn gweithio odano, sydd o fath a ddisgrifir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, ddisgrifio trefniadau sy’n ymwneud ag achosion pan fo person—
a
yn gweithio ac eithrio i berson arall;
b
yn gweithio ac eithrio am gydnabyddiaeth.
3
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
I4114Ystyr “fframwaith prentisiaeth”
1
Mae fframwaith prentisiaeth yn ddogfen sy’n pennu gofynion ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy mewn galwedigaeth neu grŵp o alwedigaethau, a all gynnwys (ond nad ydynt yn gyfyngedig i) gofynion sy’n ymwneud—
a
â safonau cyrhaeddiad;
b
â chymwysterau;
c
â’r math o hyfforddiant neu faint o hyfforddiant yr ymgymerir ag ef.
2
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.