xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ddyletswydd neu bŵer i ddatgelu neu ddefnyddio gwybodaeth pan osodir y ddyletswydd neu’r pŵer neu pan y’i rhoddir gan neu o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.
(2)Nid yw dyletswydd na phŵer y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo yn gweithredu i’w gwneud yn ofynnol, neu i awdurdodi, datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth a fyddai’n torri’r ddeddfwriaeth diogelu data; ond mae’r ddyletswydd neu’r pŵer i’w hystyried neu ei ystyried wrth benderfynu a fyddai’r datgeliad neu’r defnydd yn torri’r ddeddfwriaeth honno.
(3)Yn yr adran hon, mae i “deddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “data protection legislation” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o’r Ddeddf honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 141 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(s)
(1)Pan fo’r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi unrhyw beth, rhaid iddo gael ei gyhoeddi—
(a)yn electronig, a
(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn ystyried ei fod yn briodol.
(2)Mae’r ddyletswydd i gyhoeddi yn electronig—
(a)yn ddyletswydd i ddarparu mynediad yn rhad ac am ddim, a
(b)yn ddyletswydd i gyhoeddi ar wefan y person, os oes gan y person un.
(3)Caniateir i gopïau o unrhyw beth a gyhoeddir o dan is-adran (1)(b) gael eu cyflenwi yn rhad ac am ddim neu ar ôl talu unrhyw ffi, nad yw’n fwy na chost cyflenwi’r copi, a benderfynir gan y person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gyhoeddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I4A. 142 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(t)
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.
(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—
(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;
(b)darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(4)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
(a)o Ran 1, adran 22(1);
(b)o Ran 2, adrannau 25(2), 27(6), 32(2)(b), 34, 41(2), 46(6), 80(1)(c) a (2) a 83(4);
(c)o Ran 3, adrannau 88(3), 94(4) a (7)(b), 98(2), 99(6), 104(5) a 105(4);
(d)o Ran 4, adrannau 111(4), 112(1)(c) a 113(1);
(e)o’r Rhan hon—
(i)adran 145;
(ii)adran 146, ond dim ond pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn diddymu neu fel arall yn addasu darpariaeth mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu Ddeddf gan Senedd Cymru.
(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon, nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo, yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 143 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 148(1)(a)
(1)Yn y Ddeddf hon—
ystyr “adnoddau ariannol” (“financial resources”) yw adnoddau ariannol o unrhyw fath gan gynnwys grantiau, benthyciadau a thaliadau eraill;
ystyr “addysg drydyddol” (“tertiary education”) yw addysg uwch, addysg bellach neu hyfforddiant;
ystyr “addysg drydyddol Gymreig” (“Welsh tertiary education”) yw addysg drydyddol—
a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr addysg drydyddol yng Nghymru, neu
a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo;
ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40);
mae i “addysg uwchradd” yr ystyr a roddir i “secondary education” gan adran 2 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);
mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (gweler adran 1);
mae “corff llywodraethu” (“governing body”) i’w ddehongli fel a ganlyn—
mewn perthynas â darparwr hyfforddiant na fyddai, oni bai am yr adran hon, yn cael ei ystyried yn sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;
mewn perthynas ag ysgol, ei ystyr yw perchennog yr ysgol o fewn yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);
mewn perthynas â darparwr a ddynodir o dan adran 83, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;
mewn perthynas ag unrhyw sefydliad arall, mae iddo’r ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 90(2) o’r Ddeddf honno;
mae “cyfleusterau i Gymru” (“facilities for Wales”) yn cynnwys—
cyfleusterau yng Nghymru, a
cyfleusterau eraill sydd ar gael i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru;
mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);
ystyr “darparwr addysg drydyddol yng Nghymru” (“tertiary education provider in Wales”) yw sefydliad sy’n darparu addysg drydyddol, gan gynnwys addysg drydyddol a ddarperir ar ei ran, y cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;
ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yw darparwr addysg drydyddol sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr; ac mae cyfeiriadau at “cofrestru” (“registration”) i’w darllen yn unol â hynny;
ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 25;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;
mae “sefydliad” (“institution”) yn cynnwys unrhyw ddarparwr hyfforddiant (pa un a fyddai’r darparwr hyfforddiant fel arall yn cael ei ystyried yn sefydliad ai peidio);
ystyr “swyddogaethau” (“functions”) yw pwerau a dyletswyddau;
mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” gan Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52);
mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol.
(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at addysg bellach yn gyfeiriadau at addysg (ac eithrio addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol a gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy’n gysylltiedig ag addysg o’r fath.
(3)Yn unol â hynny, at ddibenion y Ddeddf hon, mae addysg bellach yn cynnwys addysg sy’n addas i ofynion disgyblion dros yr oedran ysgol gorfodol ond o dan 19 oed a ddarperir mewn ysgol y darperir addysg uwchradd ynddi hefyd.
(4)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at hyfforddiant yn gyfeiriadau at hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol a gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy’n gysylltiedig â hyfforddiant o’r fath.
(5)At ddibenion is-adrannau (2) a (4)—
(a)mae addysg yn cynnwys addysg lawn-amser a rhan-amser;
(b)mae hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant llawn-amser a rhan-amser;
(c)mae hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol, corfforol a hamdden.
(6)Yn y Ddeddf hon—
(a)mae cyfeiriadau at sefydliadau o fewn y sector addysg bellach yn gyfeiriadau at “institutions within the further education sector” sy’n dod o fewn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), a
(b)mae cyfeiriadau at sefydliadau o fewn y sector addysg uwch yn gyfeiriadau at “institutions within the higher education sector” sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
(7)Mae is-adrannau (2) a (3) o adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) yn gymwys i benderfynu, at ddibenion y Ddeddf hon, a yw person o’r oedran ysgol gorfodol, i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys o ran Cymru.
(8)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon (sut bynnag y’u mynegir) at ddarparu addysg drydyddol gan, neu ar ran, darparwr addysg drydyddol yng Nghymru (gan gynnwys darparwr cofrestredig neu ddarparwr penodedig) yn cynnwys cyrsiau addysg drydyddol a ddarperir—
(a)mewn un neu ragor o leoedd yng Nghymru neu mewn mannau eraill,
(b)drwy gyfrwng gohebiaeth, offer neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle (pa un ai yng Nghymru neu mewn mannau eraill) i gymryd rhan yn yr addysg drydyddol, neu
(c)drwy gyfuniad o’r ffyrdd a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b).
(9)Yn is-adran (1), ystyr “darparwr hyfforddiant” yw person sy’n darparu hyfforddiant ar gyfer aelodau o weithlu’r ysgol (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the school workforce” gan adran 100 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18)).
(10)At ddibenion y Ddeddf hon, mae addysg drydyddol a ddarperir y tu allan i Gymru i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu yng Nghymru os y’i darperir fel rhan o gwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 144 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 148(1)(a)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu i’r Brifysgol Agored gael ei thrin fel darparwr addysg drydyddol yng Nghymru at ddiben unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu unrhyw ddarpariaeth a wneir odani.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu effaith darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu ddarpariaeth a wneir odani, i’r graddau y mae’n gymwys i’r Brifysgol Agored, pa un ai fel darparwr addysg drydyddol yng Nghymru neu fel darparwr cofrestredig (os daw’n un).
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 145 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 148(1)(a)
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt, drwy reoliadau, wneud—
(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b)darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon).
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 146 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 148(1)(a)
Mae Atodlen 4 yn gwneud mân ddarpariaethau a darpariaethau o ganlyniad i’r Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 147 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I10A. 147 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(u)
(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)adrannau 143 i 146;
(b)yr adran hon;
(c)adran 149.
(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth i rym a ddygir i rym drwy’r gorchymyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 148 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 148(1)(b)
(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
(2)Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 149 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 148(1)(c)