- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Atodlen yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, ATODLEN 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rhagolygol
(a gyflwynir gan adran 56)
1(1)Caiff y Comisiwn ddynodi corff i arfer ei swyddogaethau asesu.
(2)Ni chaiff y Comisiwn ddynodi corff o dan is-baragraff (1) ond os yw’n ystyried—
(a)bod y corff yn addas i arfer y swyddogaethau asesu, a
(b)y byddai dynodi’r corff yn briodol er mwyn sicrhau bod ansawdd addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn cael ei asesu’n effeithiol.
(3)Cyn dynodi corff, rhaid i’r Comisiwn—
(a)cael cydsyniad Gweinidogion Cymru, a
(b)ymgynghori—
(i)â phob darparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch, a
(ii)ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(4)Os yw’r Comisiwn yn penderfynu dynodi corff o dan is-baragraff (1), rhaid iddo—
(a)hysbysu’r corff am y dynodiad cyn y dyddiad y mae’r dynodiad yn cymryd effaith (“y dyddiad effeithiol”), a
(b)cyhoeddi hysbysiad o’r dynodiad cyn y dyddiad hwnnw.
(5)Rhaid i’r hysbysiad o’r dynodiad ddatgan—
(a)enw’r corff, a
(b)y dyddiad effeithiol.
(6)Os nad yw Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad o dan is-baragraff (3)(a), rhaid iddynt gyhoeddi’r rhesymau dros beidio â gwneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
2(1)Mae corff yn addas i arfer y swyddogaethau asesu os yw’r corff yn bodloni’r amodau yn is-baragraff (2).
(2)Yr amodau yw—
(a)bod y corff yn gallu arfer y swyddogaethau asesu mewn modd effeithiol,
(b)bod y personau sy’n penderfynu blaenoriaethau strategol y corff yn cynrychioli ystod eang o ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch,
(c)bod gan ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch ffydd yn y corff,
(d)bod y corff yn arfer ei swyddogaethau yn annibynnol ar unrhyw ddarparwr addysg uwch penodol, ac
(e)bod y corff yn cydsynio i gael ei ddynodi o dan yr Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
3(1)Caiff y Comisiwn drwy hysbysiad ddileu dynodiad o dan yr Atodlen hon.
(2)Rhaid i’r hysbysiad—
(a)cynnwys y rhesymau dros benderfyniad y Comisiwn, a
(b)pennu’r dyddiad y caiff y dynodiad ei ddileu.
(3)Ni chaiff y Comisiwn ddileu dynodiad ond—
(a)os yw’r Comisiwn wedi ei fodloni y byddai dileu’r dynodiad yn briodol er mwyn sicrhau bod ansawdd addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn cael ei asesu’n effeithiol, neu
(b)os yw’r corff dynodedig yn cydsynio i’r dynodiad gael ei ddileu.
(4)Oni bai bod is-baragraff (3)(b) yn gymwys, rhaid i’r Comisiwn, cyn dileu’r dynodiad—
(a)cael cydsyniad Gweinidogion Cymru, a
(b)ymgynghori—
(i)â phob darparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch, ac
(ii)ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(5)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad o dan y paragraff hwn.
(6)Os nad yw Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad o dan is-baragraff (4)(a), rhaid iddynt gyhoeddi’r rhesymau dros beidio â gwneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
4Mae’r Rhan hon yn gymwys os oes corff a ddynodir o dan yr Atodlen hon i arfer y swyddogaethau asesu.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
5Caiff y Comisiwn ddarparu cyllid i’r corff dynodedig er mwyn arfer y swyddogaethau asesu.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
6Rhaid i’r Comisiwn wneud trefniadau er mwyn dwyn y corff dynodedig i gyfrif am arfer y swyddogaethau asesu.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
7(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd blynyddol, rhaid i’r corff dynodedig lunio adroddiad am arfer y swyddogaethau asesu yn ystod y cyfnod a’i anfon i’r Comisiwn.
(2)Ystyr “cyfnod adrodd blynyddol”, mewn perthynas â chorff dynodedig, yw—
(a)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad effeithiol, a
(b)pob cyfnod dilynol o 12 mis.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
8(1)Caiff y Comisiwn roi cyfarwyddydau cyffredinol i’r corff dynodedig ynghylch arfer y swyddogaethau asesu.
(2)Wrth roi’r cyfarwyddydau hynny, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r angen i ddiogelu—
(a)arbenigedd y corff dynodedig, a
(b)gallu’r corff dynodedig i wneud, neu i wneud trefniadau ar gyfer gwneud, asesiad diduedd o ansawdd yr addysg uwch a ddarperir gan ddarparwr addysg drydyddol.
(3)Rhaid i’r cyfarwyddydau ymwneud—
(a)â darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch neu ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyffredinol, neu
(b)â disgrifiad o’r darparwyr hynny.
(4)Rhaid i’r corff dynodedig gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
9Rhaid i’r Comisiwn roi gwybod i Weinidogion Cymru os oes ganddo bryderon sylweddol ynghylch—
(a)sut y mae’r corff dynodedig yn arfer y swyddogaethau asesu, neu
(b)addasrwydd parhaus y corff dynodedig i arfer y swyddogaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
10(1)Caiff y corff dynodedig godi ffi, neu ffioedd, ar unrhyw ddarparwr addysg drydyddol y mae’r corff yn arfer y swyddogaethau asesu mewn perthynas ag ef.LL+C
(2)Rhaid i unrhyw ffioedd a godir gan y corff dynodedig o dan is-baragraff (1) gael eu codi yn unol â chynllun a lunnir ac a gyhoeddir gan y corff dynodedig sy’n nodi—
(a)y ffioedd a godir gan y corff o dan is-baragraff (1), a
(b)y sail y cyfrifir y ffioedd hynny arni.
(3)Caniateir i swm y ffi sy’n daladwy gan unrhyw ddarparwr addysg drydyddol o dan is-baragraff (1) gael ei gyfrifo drwy gyfeirio at gostau yr aed iddynt, neu yr eir iddynt, gan y corff wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon—
(a)nad ydynt yn gysylltiedig â’r darparwr;
(b)sy’n cael eu harfer, neu sydd i’w harfer, dros gyfnod a bennir yn y cynllun.
(4)Ond ni chaiff cyfanswm y ffioedd sy’n daladwy o dan y cynllun mewn unrhyw gyfnod fod yn fwy na’r gost i’r corff dynodedig o arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yn ystod yr un cyfnod.
(5)At ddibenion is-baragraff (4), y gost i’r corff dynodedig o arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yw swm y costau yr aed iddo, neu yr eir iddo, gan y corff dynodedig wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn unrhyw gyfnod penodol, llai unrhyw gyllid a geir gan y corff o dan baragraff 5 o’r Atodlen hon yn yr un cyfnod.
(6)Caiff y corff dynodedig ddiwygio’r cynllun.
(7)Mae’r cynllun (ac unrhyw gynllun diwygiedig) i’w drin fel pe na bai ond yn cael effaith os yw wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
11(1)Yn yr Atodlen hon—LL+C
ystyr “corff dynodedig” (“designated body”) yw corff sydd am y tro wedi ei ddynodi o dan yr Atodlen hon;
mae i “y dyddiad effeithiol” (“the effective date”), mewn perthynas â chorff dynodedig, yr ystyr a roddir ym mharagraff 1;
mae i “y swyddogaethau asesu” (“the assessment functions”) yr ystyr a roddir yn adran 56(2).
(2)Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at gorff sy’n addas i arfer y swyddogaethau asesu i’w darllen yn unol â pharagraff 2.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: