ATODLEN 4MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL
12Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)
1
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn adran 145B (astudiaethau mewn perthynas â chyrff addysgol)—
a
yn is-adran (1), yn y Tabl—
i
yn y cofnod ar gyfer corff llywodraethu sefydliad yng Nghymru o fewn y sector addysg uwch, yn yr ail golofn, yn lle “the Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”;
ii
hepgorer y cofnod ar gyfer corff llywodraethu sy’n cael cymorth ariannol o dan adran 86 o Ddeddf Addysg 2005;
iii
yn y cofnod ar gyfer corff llywodraethu sefydliad yng Nghymru o fewn y sector addysg bellach, yn yr ail golofn, yn lle “or the Assembly” rhodder “, the Commission or the Welsh Ministers”;
b
yn is-adran (4), yn lle “the Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research” ac yn lle “the council” rhodder “the Commission”.
3
Yn Rhan 3 o Atodlen 4 (cyrff sy’n ddarostyngedig i’w diwygio), hepgorer paragraff 16.
4
Yn Rhan 1 o Atodlen 17 (cyrff sy’n ddarostyngedig yn gyffredinol i ddarpariaethau archwilio etc.)—
a
ym mharagraff 1 hepgorer “or III”;
b
ar ôl paragraff 11 mewnosoder—
11A
The Commission for Tertiary Education and Research.