ATODLEN 4LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Rhagolygol

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)LL+C

30(1)Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 162 (trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad: oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a gofalwyr), yn is-adran (4)—

(a)ym mharagraff (g), yn lle “Ran 2 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000” rhodder “adran 92, 97 neu 103(1) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022”;

(b)ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(ga)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i’r graddau y mae’n cyflawni swyddogaethau o dan adran 93, 94, 95, 97 neu 103(1) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022;.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)