Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

10Hybu cenhadaeth ddinesigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu cyflawni cenhadaeth ddinesig gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg bellach a’r sector addysg uwch.

(2)Caiff y Comisiwn arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon i hybu cyflawni cenhadaeth ddinesig gan bersonau eraill (ac eithrio’r darparwyr addysg drydyddol a grybwyllir yn is-adran (1)) sydd wedi eu cyllido gan y Comisiwn o dan y Ddeddf hon.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “cenhadaeth ddinesig” yw gweithredu at ddiben hybu neu wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru (gan gynnwys gweithredu sydd wedi ei anelu at gyflawni unrhyw un neu ragor o’r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)).

(4)Yn is-adran (3) ac yn adran 11, mae “llesiant Cymru” yn cynnwys llesiant—

(a)Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni;

(b)pob un o’r personau sy’n preswylio neu’n bresennol yng Nghymru neu unrhyw un neu ragor o’r personau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 10 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(i)

I3A. 10 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)