Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Rhagolygol

100Profion moddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru—

(a)cynnal profion modd;

(b)trefnu i bersonau eraill gynnal profion modd.

(2)Caiff y Comisiwn a Gweinidogion Cymru ystyried canlyniadau’r profion modd a gynhelir o dan is-adran (1) wrth arfer y pŵer o dan adran 97(1)(d) neu (e).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)