Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Rhagolygol

107Swyddogaethau eraill y Comisiwn mewn perthynas ag ymchwil ac arloesiLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yng Nghymru o’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido;

(b)lledaenu yng Nghymru ganlyniadau’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido;

(c)hwyluso cymhwyso’n ymarferol yng Nghymru ganlyniadau’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido.‍

(2)Rhaid i’r Comisiwn fonitro sut y mae adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 105 yn cael eu defnyddio.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gynnwys yn ei adroddiad blynyddol (a lunnir o dan baragraff 16 o Atodlen 1) y casgliadau y mae’n dod iddynt o’r monitro hwnnw o ran y graddau y mae’r gweithgareddau y mae’n eu cyllido, ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi—

(a)yn cyflawni canlyniadau llwyddiannus,

(b)yn cael eu cyflwyno’n effeithiol, ac

(c)yn cynrychioli gwerth am arian.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)