Rhagolygol

RHAN 4LL+CPRENTISIAETHAU

Swyddogaethau Gweinidogion CymruLL+C

115Pennu gofynion mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwyLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru bennu gofynion mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy at ddibenion y Rhan hon.

(2)Caiff gofyniad ymwneud â chynnwys fframweithiau prentisiaethau, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i)—

(a)pennu’r sectorau galwedigaethol y mae rhaid i’r alwedigaeth neu’r grŵp o alwedigaethau a gwmpesir gan fframwaith prentisiaeth ymwneud â hwy;

(b)y safonau cyrhaeddiad cyffredinol sy’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy;

(c)y math o gymwysterau sy’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy;

(d)y math o hyfforddiant neu faint o hyfforddiant sy’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy.

(3)Caiff gofyniad ymwneud â llunio, diwygio, tynnu’n ôl neu gyhoeddi fframwaith prentisiaeth, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i)—

(a)y ffordd y mae fframwaith prentisiaeth yn cael ei lunio, ei ddiwygio, ei dynnu’n ôl neu ei gyhoeddi;

(b)y materion y mae rhaid eu hystyried wrth lunio fframwaith prentisiaeth, ei ddiwygio neu ei dynnu’n ôl.

(4)Caiff gofyniad ymwneud â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy yn gyffredinol neu â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy mewn un neu ragor o alwedigaethau.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)diwygio gofyniad neu ei dynnu’n ôl drwy bennu gofyniad ymhellach;

(b)tynnu gofyniad yn ôl drwy gyhoeddi hysbysiad o’i dynnu’n ôl.

(6)Rhaid i ofyniad a bennir o dan yr adran hon (gan gynnwys diwygiad a phennu sy’n cynnwys tynnu’n ôl) gael ei gyhoeddi.

(7)Rhaid i ofyniad a bennir o dan yr adran hon (gan gynnwys diwygiad) a thynnu gofyniad yn ôl (pa un ai drwy hysbysiad neu drwy bennu gofyniad ymhellach) ddatgan y dyddiad y daw i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)