Rhagolygol
119Pŵer i ddyroddi tystysgrifau prentisiaethauLL+C
(1)Caiff y Comisiwn ddyroddi tystysgrif (“tystysgrif brentisiaeth”) mewn cysylltiad â pherson sy’n gwneud cais amdani, os yw’n ymddangos i’r Comisiwn fod y person wedi cwblhau prentisiaeth Gymreig gymeradwy.
(2)Caiff y Comisiwn, yn dilyn cais, gyflenwi copi o dystysgrif brentisiaeth i berson y dyroddwyd y dystysgrif mewn cysylltiad ag ef.
(3)Caiff y Comisiwn benderfynu—
(a)y ffordd y mae rhaid i geisiadau am dystysgrifau neu am gopïau o dystysgrifau gael eu gwneud;
(b)cynnwys tystysgrifau.
(4)Ni chaiff y Comisiwn godi ffi am ddyroddi tystysgrif brentisiaeth neu am gyflenwi copi ohoni ond os yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn awdurdodi codi’r ffi, a dim ond i’r graddau y mae’r rheoliadau yn awdurdodi hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)