RHAN 6GWYBODAETH, CYNGOR A CHANLLAWIAU
I1135Gwybodaeth arall, cyngor arall a chanllawiau eraill
1
Caiff y Comisiwn roi cyngor a dyroddi canllawiau (pa un ai’n gyffredinol neu’n benodol) i unrhyw berson ynghylch darparu addysg drydyddol neu unrhyw fater sy’n gysylltiedig â swyddogaethau’r Comisiwn.
2
Rhaid i’r Comisiwn—
a
nodi arferion da mewn perthynas â rhannu gwybodaeth gan y personau a bennir yn is-adran (3), a
b
rhoi cyngor a dyroddi canllawiau ar arferion o’r fath i’r personau hynny.
3
Y personau a bennir yn yr is-adran hon yw—
a
darparwr cofrestredig,
b
person ac eithrio darparwr cofrestredig sy’n darparu addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.
4
Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi unrhyw ganllawiau y mae’n eu dyroddi o dan is-adrannau (1) a (2).
5
Rhaid i’r Comisiwn sefydlu systemau ar gyfer casglu gwybodaeth sydd wedi eu dylunio i sicrhau bod ei benderfyniadau o ran addysg drydyddol yn cael eu gwneud ar sail gadarn.