RHAN 7AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

141Diogelu Data

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i ddyletswydd neu bŵer i ddatgelu neu ddefnyddio gwybodaeth pan osodir y ddyletswydd neu’r pŵer neu pan y’i rhoddir gan neu o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(2)

Nid yw dyletswydd na phŵer y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo yn gweithredu i’w gwneud yn ofynnol, neu i awdurdodi, datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth a fyddai’n torri’r ddeddfwriaeth diogelu data; ond mae’r ddyletswydd neu’r pŵer i’w hystyried neu ei ystyried wrth benderfynu a fyddai’r datgeliad neu’r defnydd yn torri’r ddeddfwriaeth honno.

(3)

Yn yr adran hon, mae i “deddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “data protection legislation” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o’r Ddeddf honno).