RHAN 7AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
I1143Rheoliadau
1
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.
2
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—
a
darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;
b
darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
3
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
4
Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
a
o Ran 1, adran 22(1);
b
o Ran 2, adrannau 25(2), 27(6), 32(2)(b), 34, 41(2), 46(6), 80(1)(c) a (2) a 83(4);
c
o Ran 3, adrannau 88(3), 94(4) a (7)(b), 98(2), 99(6), 104(5) a 105(4);
d
o Ran 4, adrannau 111(4), 112(1)(c) a 113(1);
e
o’r Rhan hon—
i
adran 145;
ii
adran 146, ond dim ond pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn diddymu neu fel arall yn addasu darpariaeth mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu Ddeddf gan Senedd Cymru.
5
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon, nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo, yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.