RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Rhyddid academaidd ac awtonomi sefydliadol

I1I217Rhyddid academaidd darparwyr a staff addysg uwch

1

Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i Weinidogion Cymru a’r Comisiwn roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n —

a

darparu addysg uwch (i’r graddau y mae’r rhyddid yn ymwneud ag addysg uwch neu ymchwil ac arloesi), ‍a

b

staff academaidd y darparwyr hynny.

2

Yn yr adran hon, ystyr “rhyddid academaidd” yw—

a

mewn perthynas â darparwyr addysg drydyddol, eu rhyddid i benderfynu—

i

cynnwys cyrsiau addysg uwch pendool a’r modd y cânt eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,

ii

y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol, a

iii

y meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol;

b

mewn perthynas â staff academaidd, eu rhyddid o fewn y gyfraith—

i

i gwestiynu a phrofi doethineb cyffredin, a

ii

i gyflwyno syniadau newydd a lleisio barn ddadleuol neu amhoblogaidd,

heb eu rhoi eu hunain mewn perygl o golli eu swyddi neu unrhyw freintiau a all fod ganddynt yn y darparwyr addysg drydyddol.