xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CFFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Swyddogaethau ychwanegolLL+C

22Swyddogaethau ychwanegol y ComisiwnLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi swyddogaethau atodol i’r Comisiwn.

(2)Mae “swyddogaeth atodol” yn swyddogaeth—

(a)sy’n arferadwy at ddibenion swyddogaeth i Weinidogion Cymru, a

(b)sy’n ymwneud—

(i)â darparu, neu’r bwriad i ddarparu, addysg drydyddol, neu

(ii)â gwneud, neu’r bwriad i wneud, gwaith ymchwil ac arloesi.

(3)Mae is-adrannau (4) a (5) yn gymwys—

(a)pan fo tir neu eiddo arall yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal, neu pan oedd yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal, at ddibenion darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg uwch neu’r sector addysg bellach, a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru â’r hawlogaeth i gael unrhyw hawl neu fuddiant mewn cysylltiad â’r eiddo, neu pan fyddent â hawlogaeth o’r fath pe bai digwyddiad yn digwydd.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod pob un neu unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r eiddo yn arferadwy ar eu rhan gan y Comisiwn.

(5)Rhaid i’r Comisiwn arfer y swyddogaethau hynny yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 22 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(h)