RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
Y gofrestr a’r weithdrefn gofrestru
25Y gofrestr
1
Rhaid i’r Comisiwn sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru (y cyfeirir ati yn y Ddeddf hon fel “y gofrestr”).
2
Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu un neu ragor o gategorïau cofrestru y mae rhaid i’r Comisiwn wneud darpariaeth ar eu cyfer yn y gofrestr.
3
Rhaid i gategori cofrestru a bennir yn y rheoliadau ymwneud â darparu un neu ragor o fathau o addysg drydyddol.
4
Rhaid i’r Comisiwn gofrestru darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr—
a
os yw ei gorff llywodraethu yn gwneud cais iddo gael ei gofrestru yn y categori,
b
os yw’n ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru,
c
os yw’n darparu’r math o addysg drydyddol sy’n ymwneud â’r categori, neu os yw’r math hwnnw o addysg drydyddol yn cael ei ddarparu ar ei ran,
d
os yw’n bodloni’r amodau cofrestru cychwynnol sy’n gymwys iddo mewn cysylltiad â’r cofrestriad a geisir (gweler adran 27),
e
os nad yw cofrestru wedi ei wahardd gan ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan is-adran (5), ac
f
os yw’r cais yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan is-adran (7).
5
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wahardd cofrestru darparwr addysg drydyddol mewn un categori o’r gofrestr ar yr un pryd ag y mae wedi ei gofrestru mewn un neu ragor o’r categorïau eraill.
6
Ni chaiff y Comisiwn gofrestru darparwr addysg drydyddol yn y gofrestr ac eithrio—
a
mewn categori cofrestru a bennir mewn rheoliadau o dan is-adran (2);
b
yn unol ag is-adran (4), adran 44 (newid categori cofrestru heb gais) ac unrhyw reoliadau a wneir o dan is-adran (5).
7
Caiff y Comisiwn benderfynu—
a
ffurf cais i gofrestru,
b
yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cais neu sydd i’w darparu gydag ef, ac
c
y ffordd y mae cais i’w gyflwyno.
8
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr addysg drydyddol yn y gofrestr.
9
Unwaith y bydd wedi ei gofrestru, mae cofrestriad parhaus darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr yn ddarostyngedig i’r darparwr fodloni—
a
yr amodau cofrestru parhaus cyffredinol sy’n gymwys i gofrestriad y darparwr yn y categori ac fel y gallant gael eu diwygio’n ddiweddarach (gweler adran 28), a
b
yr amodau cofrestru parhaus penodol (os oes rhai) a osodir arno yn y categori cofrestru hwnnw ac fel y gallant gael eu hamrywio’n ddiweddarach (gweler adran 29).
10
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at amodau cofrestru parhaus darparwr addysg drydyddol yn gyfeiriadau at yr amodau a grybwyllir yn is-adran (9)(a) a (b).
11
Rhaid i’r Comisiwn roi’r wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr, a’r wybodaeth a gynhwyswyd ynddi yn flaenorol, ar gael i’r cyhoedd drwy’r cyfrwng y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.