RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
Amodau cofrestru
I1I227Amodau cofrestru cychwynnol
I31
Mae’n amod cofrestru cychwynnol ym mhob categori o’r gofrestr fod y Comisiwn wedi ei fodloni o ran—
a
ansawdd y math o addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais, y mae’r categori o’r gofrestr yn ymwneud ag ef;
b
effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais (gan gynnwys ei drefniadau rheoli ariannol);
c
cynaliadwyedd ariannol y darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais;
d
effeithiolrwydd trefniadau’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais ar gyfer cefnogi a hybu lles ei fyfyrwyr a’i staff;
e
pan fo trefniadau dilysu yn eu lle, effeithiolrwydd y trefniadau hynny wrth alluogi’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais i’w fodloni ei hunan o ran ansawdd yr addysg sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster o dan y trefniadau.
I32
Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dogfen sy’n pennu’r gofynion y mae rhaid iddynt gael eu diwallu er mwyn iddo gael ei fodloni o ran y materion a grybwyllir yn is-adran (1).
3
Caiff y Comisiwn ddiwygio’r gofynion.
4
Os yw’r Comisiwn yn diwygio’r gofynion, rhaid iddo gyhoeddi dogfen ddiwygiedig sy’n pennu’r gofynion fel y’u diwygiwyd.
5
Cyn cyhoeddi’r ddogfen neu ddogfen ddiwygiedig, rhaid i’r Comisiwn, os yw’n ymddangos iddo ei bod yn briodol gwneud hynny, ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
6
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer amodau cofrestru cychwynnol pellach ar gyfer unrhyw gategori cofrestru.
7
Caiff rheoliadau o dan is-adran (6) (ymhlith pethau eraill)—
a
rhoi swyddogaethau i’r Comisiwn mewn cysylltiad â gweithredu amodau cychwynnol pellach y darperir ar eu cyfer yn y rheoliadau;
b
darparu ar gyfer amodau cofrestru cychwynnol pellach sy’n ymwneud—
i
â statws elusennol neu statws arall darparwyr addysg drydyddol;
ii
â’r wybodaeth a ddarperir i ddarpar fyfyrwyr am ddarparwr, ei gyrsiau, a thelerau ac amodau ei gontractau â myfyrwyr;
iii
â gweithdrefnau cwyno darparwyr.
I38
Yn is-adran (1)(e), ystyr “trefniadau dilysu” yw trefniadau rhwng darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais a darparwr addysg arall y mae’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais yn dyfarnu cymhwyster odanynt i fyfyriwr yn y darparwr arall neu’n awdurdodi’r darparwr arall i ddyfarnu cymhwyster odanynt ar ei ran.