Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

27Amodau cofrestru cychwynnolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’n amod cofrestru cychwynnol ym mhob categori o’r gofrestr fod y Comisiwn wedi ei fodloni o ran—

(a)ansawdd y math o addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais, y mae’r categori o’r gofrestr yn ymwneud ag ef;

(b)effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais (gan gynnwys ei drefniadau rheoli ariannol);

(c)cynaliadwyedd ariannol y darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais;

(d)effeithiolrwydd trefniadau’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais ar gyfer cefnogi a hybu lles ei fyfyrwyr a’i staff;

(e)pan fo trefniadau dilysu yn eu lle, effeithiolrwydd y trefniadau hynny wrth alluogi’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais i’w fodloni ei hunan o ran ansawdd yr addysg sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster o dan y trefniadau.

(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dogfen sy’n pennu’r gofynion y mae rhaid iddynt gael eu diwallu er mwyn iddo gael ei fodloni o ran y materion a grybwyllir yn is-adran (1).

(3)Caiff y Comisiwn ddiwygio’r gofynion.

(4)Os yw’r Comisiwn yn diwygio’r gofynion, rhaid iddo gyhoeddi dogfen ddiwygiedig sy’n pennu’r gofynion fel y’u diwygiwyd.

(5)Cyn cyhoeddi’r ddogfen neu ddogfen ddiwygiedig, rhaid i’r Comisiwn, os yw’n ymddangos iddo ei bod yn briodol gwneud hynny, ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer amodau cofrestru cychwynnol pellach ar gyfer unrhyw gategori cofrestru.

(7)Caiff rheoliadau o dan is-adran (6) (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi swyddogaethau i’r Comisiwn mewn cysylltiad â gweithredu amodau cychwynnol pellach y darperir ar eu cyfer yn y rheoliadau;

(b)darparu ar gyfer amodau cofrestru cychwynnol pellach sy’n ymwneud—

(i)â statws elusennol neu statws arall darparwyr addysg drydyddol;

(ii)â’r wybodaeth a ddarperir i ddarpar fyfyrwyr am ddarparwr, ei gyrsiau, a thelerau ac amodau ei gontractau â myfyrwyr;

(iii)â gweithdrefnau cwyno darparwyr.

(8)Yn is-adran (1)(e), ystyr “trefniadau dilysu” yw trefniadau rhwng darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais a darparwr addysg arall y mae’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais yn dyfarnu cymhwyster odanynt i fyfyriwr yn y darparwr arall neu’n awdurdodi’r darparwr arall i ddyfarnu cymhwyster odanynt ar ei ran.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 27 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(p)

I3A. 27(1)(2)(8) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(q)