RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
Amodau cofrestru
I129Amodau cofrestru parhaus penodol
1
Caiff y Comisiwn, ar adeg cofrestru darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr neu’n ddiweddarach, osod unrhyw amodau ar ei gofrestriad yn y categori y mae’r Comisiwn yn eu penderfynu (“yr amodau cofrestru parhaus penodol”).
2
Caiff y Comisiwn ar unrhyw adeg amrywio neu ddileu amod cofrestru parhaus penodol.
3
Cyn—
a
gosod amod cofrestru parhaus penodol, neu
b
amrywio neu ddileu amod cofrestru parhaus penodol,
rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol ei fod yn bwriadu gwneud hynny.
4
Rhaid i’r hysbysiad—
a
pennu rhesymau’r Comisiwn dros fwriadu cymryd y cam o dan sylw,
b
pennu’r cyfnod pan gaiff corff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol gyflwyno sylwadau ynghylch yr hyn y mae’r Comisiwn yn bwriadu ei wneud (“y cyfnod penodedig”), ac
c
pennu’r ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.
5
Ni chaiff y cyfnod penodedig fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad.
6
Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan gorff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol yn unol â’r hysbysiad wrth benderfynu pa un ai i gymryd y cam o dan sylw.
7
Ar ôl penderfynu pa un ai i gymryd y cam o dan sylw ai peidio, rhaid i’r Comisiwn—
a
hysbysu corff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol am ei benderfyniad, a
b
cyhoeddi’r hysbysiad.
8
Os yw’r Comisiwn yn penderfynu gosod amod cofrestru parhaus penodol newydd neu amrywio neu ddileu amod cofrestru parhaus penodol, rhaid i’r hysbysiad—
a
pennu’r amod newydd, yr amod fel y’i hamrywir neu’r amod sy’n cael ei ddileu (yn ôl y digwydd), a
b
pennu’r dyddiad pan fydd y gosod, yr amrywio neu’r dileu yn cymryd effaith.
9
Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â gosod neu amrywio amod cofrestru parhaus penodol, rhaid i’r hysbysiad hefyd bennu—
a
y sail dros osod neu amrywio’r amod,
b
gwybodaeth o ran yr hawl i gael adolygiad, ac
c
y cyfnod a bennir mewn rheoliadau o dan adran 79(4)(c) y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud ynddo.
10
Ni chaiff amod cofrestru parhaus penodol, neu amrywiad i amod o’r fath, gymryd effaith ar unrhyw adeg—
a
pan allai cais am adolygiad o dan adran 45(b) gael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r penderfyniad i osod neu i amrywio’r amod, neu
b
pan fo adolygiad neu benderfyniad gan y Comisiwn yn dilyn adolygiad o’r fath yn yr arfaeth.
11
Ond nid yw hynny yn atal amod cofrestru parhaus penodol, neu amrywiad i amod o’r fath, rhag cymryd effaith os yw corff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol yn hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gwneud cais am adolygiad.
12
Pan fo is-adran (10) yn peidio ag atal amod cofrestru parhaus penodol, neu amrywiad i amod o’r fath, rhag cymryd effaith ar y dyddiad a bennir o dan is-adran (8), rhaid i’r Comisiwn benderfynu dyddiad yn y dyfodol pan fydd yn cymryd effaith.
13
Ond mae hynny yn ddarostyngedig i’r hyn sydd wedi cael ei benderfynu gan y Comisiwn yn dilyn unrhyw adolygiad o dan adran 45(b) mewn cysylltiad â’r penderfyniad i osod neu i amrywio’r amod.