RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Dyletswyddau strategol y Comisiwn

4Annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol

Rhaid i’r Comisiwn—

(a)

annog unigolion sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn benodol y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, i gymryd rhan mewn addysg drydyddol, a

(b)

annog cyflogwyr yng Nghymru i gymryd rhan yn narpariaeth addysg drydyddol.