50Fframweithiau sicrhau ansawddLL+C
(1)Caiff y Comisiwn gyhoeddi fframweithiau sicrhau ansawdd.
(2)Mae fframwaith sicrhau ansawdd yn ddogfen sy’n nodi canllawiau a gwybodaeth am faterion polisi ac arfer ynghylch—
(a)meini prawf ar gyfer asesu ansawdd addysg drydyddol;
(b)prosesau ar gyfer asesu ansawdd addysg drydyddol;
(c)rolau a chyfrifoldebau—
(i)personau sy’n asesu ansawdd addysg drydyddol,
(ii)darparwyr addysg drydyddol o ran ansawdd addysg drydyddol, a
(iii)unrhyw bersonau eraill y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol o ran ansawdd addysg drydyddol;
(d)ystyried barn dysgwyr ynghylch ansawdd yr addysg drydyddol a gânt;
(e)datblygiad proffesiynol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol;
(f)unrhyw fater arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn berthnasol i sicrhau ansawdd addysg drydyddol.
(3)Caiff y Comisiwn ddiwygio, disodli neu dynnu’n ôl unrhyw fframwaith sicrhau ansawdd a gyhoeddir o dan yr adran hon.
(4)Cyn cyhoeddi fframwaith (neu unrhyw fframwaith diwygiedig) neu dynnu fframwaith yn ôl o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori—
(a)â phob darparwr cofrestredig,
(b)â Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“y Prif Arolygydd”), ac
(c)ag unrhyw bersonau eraill y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol.
(5)Rhaid i’r personau a grybwyllir yn is-adran (6), i’r graddau y mae’n berthnasol i arfer eu swyddogaethau, roi sylw i fframwaith sicrhau ansawdd a gyhoeddir o dan yr adran hon.
(6)Y personau yw—
(a)y Comisiwn;
(b)y Prif Arolygydd;
(c)corff dynodedig (gweler adran 56).
(7)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar bwerau eraill y Comisiwn i ddyroddi canllawiau.
(8)Mae i “aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol” yr un ystyr ag yn adran 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 50(1)-(3), (4)(b)(c)(7)(8) mewn grym ar 1.8.2024 gan O.S. 2024/806, ergl. 2(c) (ynghyd ag ergl. 28)
I3A. 50(4)(a) mewn grym ar 1.8.2024 gan O.S. 2024/806, ergl. 5(1) (ynghyd ag erglau. 5(2), 28)