RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD
Arolygu addysg bellach neu hyfforddiant etc.
I1I257Dyletswydd y Prif Arolygydd i arolygu ac adrodd
1
Rhaid i’r Prif Arolygydd arolygu—
a
addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo;
b
addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir gan Weinidogion Cymru neu a sicrheir fel arall ganddynt;
c
addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir gan awdurdod lleol;
d
addysg bellach neu hyfforddiant pan fo’r Comisiwn neu awdurdod lleol yn ystyried rhoi cyllid i ddarparwr yr addysg bellach neu’r hyfforddiant;
e
addysg neu hyfforddiant a ddarperir i bersonau o’r oedran ysgol gorfodol gan ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach neu’r sector addysg uwch;
f
addysg neu hyfforddiant a ddarperir yng Nghymru ac a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (os oes rhai).
2
Nid yw paragraffau (a), (b) nac (c) o is-adran (1) yn gymwys—
a
i addysg o fath y caniateir iddo gael ei arolygu neu y mae rhaid iddo gael ei arolygu o dan Ran 1 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) (arolygiadau ysgolion), neu
b
os yw’r cyllid a grybwyllir yn y paragraffau hynny wedi ei roi at ddiben penodol, i addysg neu hyfforddiant nad yw’r cymorth hwnnw wedi ei gyfeirio ati neu ato.
3
Rhaid i’r Prif Arolygydd gyhoeddi adroddiad ar bob arolygiad a gynhelir o dan yr adran hon gan gynnwys barn—
a
ar ansawdd yr addysg neu’r hyfforddiant a arolygir,
b
ar y safonau a gyrhaeddir gan y rheini sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, ac
c
ar a yw’r adnoddau ariannol sy’n cael eu rhoi ar gael i ddarparwr yr addysg neu’r hyfforddiant yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n darparu gwerth am arian.
4
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
a
ei gwneud yn ofynnol i arolygiadau o dan is-adran (1) (ac eithrio paragraff (d)) gael eu cynnal fesul ysbaid a bennir yn y rheoliadau;
b
ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau o dan is-adran (3) gael eu gwneud cyn diwedd cyfnod a bennir yn y rheoliadau.
5
Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—
a
â’r Comisiwn;
b
â’r Prif Arolygydd.