RHAN 2LL+CCOFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 2LL+CSICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Arolygu addysg bellach neu hyfforddiant etc.LL+C

57Dyletswydd y Prif Arolygydd i arolygu ac adroddLL+C

(1)Rhaid i’r Prif Arolygydd arolygu—

(a)addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo;

(b)addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir gan Weinidogion Cymru neu a sicrheir fel arall ganddynt;

(c)addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir gan awdurdod lleol;

(d)addysg bellach neu hyfforddiant pan fo’r Comisiwn neu awdurdod lleol yn ystyried rhoi cyllid i ddarparwr yr addysg bellach neu’r hyfforddiant;

(e)addysg neu hyfforddiant a ddarperir i bersonau o’r oedran ysgol gorfodol gan ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach neu’r sector addysg uwch;

(f)addysg neu hyfforddiant a ddarperir yng Nghymru ac a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (os oes rhai).

(2)Nid yw paragraffau (a), (b) nac (c) o is-adran (1) yn gymwys—

(a)i addysg o fath y caniateir iddo gael ei arolygu neu y mae rhaid iddo gael ei arolygu o dan Ran 1 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) (arolygiadau ysgolion), neu

(b)os yw’r cyllid a grybwyllir yn y paragraffau hynny wedi ei roi at ddiben penodol, i addysg neu hyfforddiant nad yw’r cymorth hwnnw wedi ei gyfeirio ati neu ato.

(3)Rhaid i’r Prif Arolygydd gyhoeddi adroddiad ar bob arolygiad a gynhelir o dan yr adran hon gan gynnwys barn—

(a)ar ansawdd yr addysg neu’r hyfforddiant a arolygir,

(b)ar y safonau a gyrhaeddir gan y rheini sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, ac

(c)ar a yw’r adnoddau ariannol sy’n cael eu rhoi ar gael i ddarparwr yr addysg neu’r hyfforddiant yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n darparu gwerth am arian.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i arolygiadau o dan is-adran (1) (ac eithrio paragraff (d)) gael eu cynnal fesul ysbaid a bennir yn y rheoliadau;

(b)ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau o dan is-adran (3) gael eu gwneud cyn diwedd cyfnod a bennir yn y rheoliadau.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori⁠—

(a)â’r Comisiwn;

(b)â’r Prif Arolygydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 57 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(bb)