RHAN 1LL+CFFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Dyletswyddau strategol y ComisiwnLL+C

6Hybu gwaith ymchwil ac arloesiLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu—

(a)gwneud gwaith ymchwil ac arloesi yng Nghymru;

(b)gwelliant parhaus yn ansawdd gwaith ymchwil ac arloesi a wneir gan bersonau perthnasol, a chystadleurwydd y gwaith ymchwil ac arloesi hwnnw o’i gymharu â gwaith ymchwil ac arloesi a wneir gan bersonau eraill;

(c)cydlafurio ar waith ymchwil ac arloesi, yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y byd rhwng—

(i)personau perthnasol;

(ii)personau perthnasol ac eraill;

(d)gwneud gwaith ymchwil ac arloesi a gweithgareddau sy’n ymwneud â gwaith ymchwil ac arloesi gan bersonau perthnasol drwy gyfrwng y Gymraeg.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “person perthnasol” yw—

(a)darparwr a bennir mewn rheoliadau o dan adran 105(4);

(b)corff sy’n cydlafurio o fewn yr ystyr a roddir gan adran 105(4) wrth wneud gwaith ymchwil ac arloesi y mae cydsyniad a roddir gan y Comisiwn o dan adran 105(5) mewn effaith mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 6(1)(a) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(e)

I3A. 6(1)(a) mewn grym ar 1.8.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2024/806, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 28)

I4A. 6(1)(b)-(d) mewn grym ar 1.8.2024 gan O.S. 2024/806, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 28)

I5A. 6(2) mewn grym ar 1.8.2024 gan O.S. 2024/806, ergl. 4(1) (ynghyd ag erglau. 4(2), 28)