RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Arolygu addysg bellach neu hyfforddiant etc.

I161Swyddogaethau ychwanegol y Prif Arolygydd

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi swyddogaethau eraill i’r Prif Arolygydd mewn cysylltiad â’r addysg neu’r hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57(1).

2

Caiff y swyddogaethau a roddir gan y rheoliadau gynnwys (ymhlith pethau eraill) swyddogaethau mewn cysylltiad â hyfforddi athrawon, darlithwyr, hyfforddwyr neu bersonau eraill sy’n ymwneud â darparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, neu mewn cysylltiad â hyfforddiant ar gyfer y personau hynny.