RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD
Arolygu addysg bellach neu hyfforddiant etc.
62Cynlluniau gweithredu yn dilyn arolygiadau gan y Prif Arolygydd
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Prif Arolygydd yn cyhoeddi adroddiad ar arolygiad.
2
Ond nid yw’n gymwys i adroddiad ar arolygiad a gynhelir—
a
o ganlyniad i gais o dan adran 58(2), neu
b
o dan adran 63.
3
Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am reoli darparwr yr addysg neu’r hyfforddiant sy’n destun yr adroddiad lunio datganiad ysgrifenedig o’r camau gweithredu y mae’r person yn bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r adroddiad ac o fewn pa gyfnod y mae’n bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny.
4
Rhaid i’r person sy’n gwneud y datganiad ei gyhoeddi.
5
Mae is-adran (6) yn gymwys—
a
os yw person sy’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn is-adrannau (3) a (4) yn gorff llywodraethu darparwr cofrestredig, a
b
os yw’r addysg neu’r hyfforddiant sy’n destun yr adroddiad yn ymwneud â chategori cofrestru’r darparwr.
6
Mae cydymffurfio â’r dyletswyddau yn is-adrannau (3) a (4) i’w drin fel pe bai’n amod cofrestru parhaus sy’n gymwys i’r darparwr cofrestredig at ddibenion adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus) ac adran 41 (datgofrestru).
7
Mae is-adran (8) yn gymwys os yw’r addysg neu’r hyfforddiant sy’n destun yr adroddiad wedi ei chyllido neu wedi ei gyllido gan y Comisiwn neu Weinidogion Cymru o dan Ran 3 o’r Ddeddf hon.
8
Mae cydymffurfio â’r dyletswyddau yn is-adrannau (3) a (4) i’w drin fel pe bai’n un o ofynion y telerau a’r amodau cyllido o dan y Ddeddf hon.