RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD
Arolygu addysg bellach neu hyfforddiant etc.
64Hawl mynediad a throseddau
(1)
Wrth gynnal arolygiad o dan y Bennod hon, mae gan y Prif Arolygydd, ar bob adeg resymol—
(a)
hawl mynediad i fangre y darperir yr addysg sy’n cael ei harolygu neu’r hyfforddiant sy’n cael ei arolygu ynddi;
(b)
hawl mynediad i fangre darparwr yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw sy’n cael ei defnyddio mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth honno;
(c)
hawl i arolygu unrhyw gofnodion a gedwir gan y person hwnnw, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r addysg neu’r hyfforddiant, sy’n ofynnol gan yr arolygydd at ddibenion yr arolygiad, ac i gymryd copïau ohonynt.
(2)
Mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant a ddarperir gan gyflogwr yn y gweithle, ni chaniateir i’r hawl mynediad a roddir gan is-adran (1) gael ei harfer ond os yw’r cyflogwr wedi cael rhybudd rhesymol.
(3)
Mae’r hawl i arolygu a roddir gan is-adran (1)(c) yn cynnwys yr hawl i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu’r dogfennau o dan sylw ac i arolygu a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur o’r fath ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig o’r fath.
(4)
Mae’r hawl honno hefyd yn cynnwys yr hawl i gael unrhyw gynhorthwy—
(a)
gan y person sy’n defnyddio neu sydd wedi bod yn defnyddio’r cyfrifiadur neu y mae’r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio felly neu wedi cael ei ddefnyddio felly ar ei ran, neu
(b)
gan unrhyw berson a chanddo ofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd,
sy’n rhesymol ofynnol gan y Prif Arolygydd.
(5)
Mae’n drosedd rhwystro’r Prif Arolygydd yn fwriadol wrth iddo arfer swyddogaethau mewn perthynas ag arolygiad o dan y Bennod hon.
(6)
Mae person sy’n euog o drosedd o’r fath yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(7)
Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer i fynd i annedd heb gytundeb y meddiannydd.
(8)
Yn yr adran hon, ystyr “mangre” yw mangre yng Nghymru neu Loegr.