RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO

Cyllido addysg uwch

I1I288Cymorth ariannol i ddarparwyr penodedig ar gyfer addysg uwch

1

Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i gorff llywodraethu darparwr penodedig mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y corff llywodraethu neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddibenion—

a

darparu addysg uwch gan, neu ar ran, y darparwr penodedig;

b

darparu cyfleusterau, a chynnal gweithgareddau eraill, gan neu ar ran y darparwr penodedig y mae ei gorff llywodraethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n dymunol eu darparu neu eu cynnal at ddibenion addysg uwch y mae’n ei darparu neu sy’n cael ei darparu ar ei ran neu mewn cysylltiad â hi.

2

Caiff y Comisiwn hefyd ddarparu adnoddau ariannol i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y person at ddiben darparu gwasanaethau gan unrhyw berson at ddibenion darparu addysg uwch gan, neu ar ran, darparwr penodedig neu mewn cysylltiad â hi.

3

Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff sy’n cydlafurio” (“collaborating body”), mewn perthynas â darparwr penodedig, yw person—

    1. a

      y mae corff llywodraethu’r darparwr penodedig yn bwriadu talu idd‍o yr holl adnoddau ariannol neu rai ohonynt a ddarperir iddo o dan is-adran (1), a

    2. b

      sy’n darparu, sy’n bwriadu darparu neu sydd wedi darparu addysg uwch ar ran y darparwr penodedig, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer;

  • ystyr “darparwr penodedig” (“specified provider”) yw darparwr cofrestredig sydd wedi ei gofrestru mewn categori a bennir at ddibenion yr adran hon mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

4

Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i gorff llywodraethu’r darparwr penodedig wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).

5

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu na chaniateir i adnoddau ariannol gael eu darparu o dan yr adran hon mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo neu wariant yr eir iddo gan berson at ddibenion darparu cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon oni fydd y cwrs yn bodloni gofynion a nodir yn y rheoliadau.