RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO
Addysg bellach a hyfforddiant
99Adnoddau ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant: telerau ac amodau
1
Os yw’r Comisiwn ei hunan, neu Weinidogion Cymru eu hunain, yn darparu adnoddau ariannol o dan adran 97, caniateir iddo neu iddynt osod y telerau a’r amodau hynny y mae’n ystyried, neu y maent yn ystyried, eu bod yn briodol.
2
Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—
a
galluogi’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo neu ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;
b
ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn neu i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu;
c
ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n darparu neu’n bwriadu darparu addysg neu hyfforddiant (“y darparwr”) wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer pob un neu unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
i
i’r darparwr godi ffioedd drwy gyfeirio at feini prawf penodedig;
ii
i’r darparwr wneud dyfarndaliadau drwy gyfeirio at feini prawf penodedig;
iii
i’r darparwr adennill symiau oddi wrth bersonau sy’n cael addysg neu hyfforddiant neu oddi wrth gyflogwyr (neu oddi wrth y ddau);
iv
i symiau gael eu penderfynu drwy gyfeirio at feini prawf penodedig pan fo darpariaeth wedi ei gwneud o dan is-baragraff (iii);
v
i esemptiadau penodedig weithredu pan fo darpariaeth wedi ei gwneud o dan is-baragraff (iii).
3
Yn is-adran (2), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y telerau a’r amodau.
4
Rhaid i’r telerau a’r amodau wahardd person sy’n darparu, neu sy’n bwriadu darparu, addysg bellach neu hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed rhag codi ffi ar bersonau o’r oedran hwnnw sy’n cael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant.
5
Rhaid i’r telerau a’r amodau hefyd wahardd person sy’n darparu, neu sy’n bwriadu darparu, addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol sy’n addas i ofynion personau cymwys rhag codi ffi ar bersonau cymwys sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw; yn yr is-adran hon mae i “addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol” a “personau cymwys” yr un ystyr ag yn adran 94.
6
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer esemptiadau i’r gofyniad yn is-adran (4) neu (5).
7
Rhaid i’r telerau a’r amodau a osodir gan y Comisiwn mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 97(1)(a) i berson nad yw’n ddarparwr cofrestredig—
a
ei gwneud yn ofynnol i’r person, os rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 126(1), gael cynllun diogelu dysgwyr yn ei le sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn (o dan adran 126(3) neu (5)) ar y dyddiad a bennir yn y telerau a’r amodau neu cyn y dyddiad hwnnw, a rhoi effaith i’r cynllun;
b
ei gwneud yn ofynnol i’r person, os yw’r person yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru, gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3);
c
ei gwneud yn ofynnol i’r person roi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn (naill ai’n benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn yn y Ddeddf hon.
8
Os yw’r Comisiwn wedi gwneud trefniadau o dan adran 97(2)(b) i berson arall ddarparu adnoddau ariannol y Comisiwn, o ran y Comisiwn—
a
caiff ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r adnoddau yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol (gan gynnwys telerau ac amodau o fath a allai gael eu gosod o dan is-adran (2)), a
b
rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r adnoddau yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a ddisgrifir yn is-adrannau (4) i (7).