xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CPARTNERIAETH GYMDEITHASOL A DATBLYGU CYNALIADWY

15Trosolwg o’r Rhan a dehongliLL+C

(1)At ddibenion gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) yng Nghymru, mae’r Rhan hon—

(a)yn gosod dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol newydd fel rhan o’r ddyletswydd llesiant yn adran 3(1) o DLlCD 2015;

(b)yn diwygio’r nod llesiant “Cymru lewyrchus” y mae cyrff cyhoeddus i ymgyrraedd ato wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan DLlCD 2015 fel bod sicrhau gwaith teg yn rhan o’r disgrifiad o’r nod.

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae i “datblygu cynaliadwy” yr ystyr a roddir gan adran 2 o DLlCD 2015.

(3)Yn y Rhan hon, ystyr “corff cyhoeddus” yw person a restrir fel “corff cyhoeddus” yn adran 6(1) o DLlCD 2015, ond at ddibenion adrannau 16 a 18 nid yw’n cynnwys Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I2A. 15 mewn grym ar 1.4.2024 gan O.S. 2023/794, ergl. 3(a)

16Dyletswydd partneriaeth gymdeithasolLL+C

(1)Wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy, rhaid i gorff cyhoeddus, i’r graddau y bo’n rhesymol, geisio consensws neu gyfaddawd â’i undebau llafur cydnabyddedig neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill ei staff ar—

(a)yr amcanion llesiant sydd i’w gosod o dan adran 3(2)(a) o DLlCD 2015;

(b)gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y mae’r corff yn eu cymryd (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny o dan adran 3(2)(b) o DLlCD 2015.

(2)At ddibenion is-adran (1), er mwyn ceisio consensws neu gyfaddawd rhaid i gorff cyhoeddus gynnwys ei undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr eraill ei staff yn y broses o bennu amcanion neu wneud penderfyniadau, drwy (yn benodol)—

(a)ymgynghori â hwy yng nghyfnod ffurfiannol y broses, a

(b)eu cynnwys fel arall drwy gydol y broses drwy—

(i)darparu gwybodaeth ddigonol i’w galluogi i ystyried yn briodol yr hyn sy’n cael ei gynnig, a

(ii)darparu amser digonol i’w galluogi i ystyried yn ddigonol yr hyn sy’n cael ei gynnig ac ymateb.

(3)Wrth ystyried beth sy’n rhesymol o dan is-adran (1) rhaid i gorff cyhoeddus gymryd i ystyriaeth ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r CPG cyn cyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I4A. 16 mewn grym ar 1.4.2024 gan O.S. 2023/794, ergl. 3(b)

17Dyletswydd partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion CymruLL+C

Wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn eu cymryd (wrth arfer eu swyddogaethau) o dan adran 3(2)(b) o DLlCD 2015 (i gyflawni’r amcanion a osodir o dan adran 3(2)(a) o DLlCD 2015), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r CPG.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I6A. 17 mewn grym ar 1.4.2024 gan O.S. 2024/343, ergl. 2(a)

18Adroddiadau partneriaeth gymdeithasolLL+C

(1)Rhaid i gorff cyhoeddus lunio, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ynglŷn â’r hyn y mae wedi ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir o dan adran 16.

(2)Rhaid cytuno ar yr adroddiad gydag undebau llafur cydnabyddedig y corff cyhoeddus neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill ei staff, neu rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno.

(3)Rhaid i’r corff cyhoeddus gyhoeddi’r adroddiad, a’i gyflwyno i’r CPG, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I8A. 18 mewn grym ar 1.4.2024 gan O.S. 2023/794, ergl. 3(c)

19Adroddiadau partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion CymruLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ynglŷn â’r hyn y maent wedi ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir o dan adran 17.

(2)Rhaid cytuno ar yr adroddiad gyda’r CPG neu rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol—

(a)cyhoeddi’r adroddiad, a’i gyflwyno i’r CPG;

(b)gosod yr adroddiad gerbron y Senedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I10A. 19 mewn grym ar 1.4.2024 gan O.S. 2024/343, ergl. 2(b)

20Gwaith tegLL+C

Yn adran 4 (nodau llesiant) o DLlCD 2015, yn Nhabl 1, yn y disgrifiad o nod “Cymru lewyrchus”, yn lle “waith addas” rhodder “waith teg”.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I12A. 20 mewn grym ar 1.4.2024 gan O.S. 2023/794, ergl. 3(d)