Valid from 01/04/2024
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ynglŷn â’r hyn y maent wedi ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir o dan adran 17.
(2)Rhaid cytuno ar yr adroddiad gyda’r CPG neu rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol—
(a)cyhoeddi’r adroddiad, a’i gyflwyno i’r CPG;
(b)gosod yr adroddiad gerbron y Senedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)