Cyffredinol

20Dehongli

Yn y Ddeddf hon–

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ar gyfer ardal yng Nghymru;‍

mae i “bag siopa” (“carrier bag”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2 o’r Atodlen;

mae i “cynnyrch plastig” (“plastic product”) yr ystyr a roddir yn adran 1(2);

mae i “cynnyrch plastig untro gwaharddedig” (“prohibited single-use plastic product”) yr ystyr a roddir yn adran 2(2);

mae i “defnyddiwr” (“consumer”) yr ystyr a roddir yn adran 5(11);

ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—

(a)

partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p. 39), neu

(b)

partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24);

mae i “plastig” (“plastic”) yr ystyr a roddir yn adran 1(4);

mae i “swyddog awdurdodedig awdurdod lleol” (“authorised officer of a local authority”) yr ystyr a roddir yn adran 7(2);

mae i “untro” (“single-use”), mewn perthynas â chynnyrch plastig, yr ystyr a roddir yn adran 1(3).

21Rheoliadau

(1)

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)

i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)

i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed, gan gynnwys darpariaeth sy’n diwygio’r Ddeddf hon.

(3)

Ni chaniateir i offeryn statudol a wneir o dan y Ddeddf hon gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Annotations:
Commencement Information

I3A. 21 mewn grym ar 7.6.2023, gweler a. 22(1)

22Dod i rym

(1)

Daw’r adran hon, ac adrannau 3, 4, 17, 21, a 23 i rym ar y diwrnod drannoeth y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(2)

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)

Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)

gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed;

(b)

pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Annotations:
Commencement Information

I4A. 22 mewn grym ar 7.6.2023, gweler a. 22(1)

23Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023.