Gorfodi
Adran 17 – Sancsiynau sifil
54.Mae’r adran hon yn galluogi rheoliadau sy’n darparu ar gyfer sancsiynau sifil i gael eu gwneud mewn cysylltiad â throseddau sy’n cael eu creu o dan adran 5 o’r Ddeddf. Mae’r pŵer hwn yn cyfateb i’r pŵer hwnnw yn Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13) (“DGRhS”).
55.Mae Rhan 3 o DGRhS yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer pwerau sancsiynu sifil amgen ar gyfer troseddau perthnasol sy’n ymwneud â diffyg cydymffurfio rheoleiddiol. Y sancsiynau sifil sydd ar gael o dan DGRhS yw cosbau ariannol penodedig, gofynion yn ôl disgresiwn, hysbysiadau stop ac ymgymeriadau gorfodi. Maent yn ddewis amgen i euogfarn droseddol, yn hytrach nag yn cymryd lle euogfarn droseddol, yn enwedig ar gyfer mân achosion o dorri gofynion rheoleiddiol.
56.Mae is-adran (3) yn cymhwyso adran 63 i 69 o DGRhS i reoliadau a wneir o dan yr adran hon fel y byddent yn gymwys i orchymyn a wneir o dan Ran 3 o DGRhS. Nodir effaith is-adran (3) yn y paragraffau a ganlyn.
57.Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi pŵer i awdurdod lleol i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â throsedd, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd sicrhau’r canlyniadau a ganlyn (gweler adran 63 o DGRhS)—
bod yr awdurdod yn cyhoeddi canllawiau ar ei ddefnydd o’r sancsiwn;
bod y canllawiau hynny yn cynnwys gwybodaeth benodedig, gan ddibynnu ar y math o sancsiwn – megis o dan ba amgylchiadau y mae cosb ariannol neu hysbysiad stop yn debygol o gael ei gosod neu ei osod, o dan ba amgylchiadau na ellir ei gosod neu ei osod; swm unrhyw gosb ariannol; sut i ryddhau cosbau a hawliau apelio ac ati;
bod y canllawiau yn cael eu diwygio pan fo’n briodol;
bod yr awdurdod yn ymgynghori â phersonau a bennir yn rheoliadau Gweinidogion Cymru cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau; a
bod yr awdurdod yn rhoi sylw i’r canllawiau wrth arfer swyddogaethau.
58.Pan roddir pŵer i awdurdod lleol i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â throsedd rhaid i’r awdurdod hefyd—
llunio a chyhoeddi canllawiau ar sut y mae’r drosedd i’w gorfodi (gweler adran 64 o DGRhS);
cyhoeddi adroddiadau am yr achosion lle y gosodwyd y sancsiwn sifil (gweler adran 65 o DGRhS).
59.Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth yn galluogi awdurdod lleol i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â throsedd oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd yr awdurdod yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion a ganlyn (y cyfeirir atynt yn DGRhS fel yr egwyddorion rheoleiddiol (“regulatory principles”)) wrth arfer y pŵer hwnnw—
bod gweithgarwch rheoleiddiol yn cael ei gynnal mewn ffordd sy’n dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson; a
na ddylai gweithgarwch rheoleiddiol fod wedi ei dargedu ond at achosion lle bod angen gweithredu.
60.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi pŵer i osod sancsiynau sifil, rhaid iddynt adolygu sut y mae’r pŵer hwnnw yn cael ei weithredu (gweler adran 67 o DGRhS) a chânt atal pŵer awdurdod lleol i osod sancsiynau o’r fath (gweler adran 68 o DGRhS).
61.Rhaid i dderbyniadau o sancsiynau sifil — e.e. o dalu cosbau ariannol — gael eu talu i Gronfa Gyfunol Cymru pan fo gan yr awdurdod lleol swyddogaethau o ran Cymru yn unig; ac i Gronfa Gyfunol y DU pan fo gan yr awdurdod gorfodi swyddogaethau o ran Cymru a rhan arall o’r DU (gweler adran 69 o DGRhS).
62.Mae is-adran (4) yn cymhwyso adran 60(1) a (2) o DGRhS i reoliadau a wneir o dan yr adran hon fel y byddent yn gymwys i orchymyn a wneir o dan Ran 3 o DGRhS.
63.Rhaid i reoliadau sy’n gwneud darpariaeth a alluogir gan yr adran hon fod wedi eu gwneud o dan y weithdrefn gadarnhaol.