Gorfodi

18Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraill

1

Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

2

Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).

3

Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig.

4

Mae Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y mae yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

5

Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.

6

Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.